ELGC(5)-21-18 Papur 16/ Paper 16

 

Rebecca Evans AC

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

26 Mehefin 2018

 

 

 

 

Annwyl Rebecca

 

Yr ymchwiliad sy’n mynd rhagddo i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn

 

 

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 12 Mehefin 2018, a drafodwyd gennym yn ein cyfarfod ar 21 Mehefin. Gwnaethom gytuno i godi nifer o faterion gyda chi.

 

Y sector preifat - rôl asiantau rheoli blociau

 

 

Yn ein llythyr blaenorol dyddiedig 17 Mai, gwnaethom ofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i gwmnïau a sefydlwyd i reoli blociau preswyl sy'n eiddo i berchnogion preifat. Yn y llythyr hwn, nodwyd bod y cyfrifoldeb am reoli mewn nifer o flociau wedi mynd i berchnogion fflatiau, a'u bod bellach yn gorfod delio â materion cymhleth o ran adeiladau, iechyd a diogelwch, cyllid a'r gyfraith. Gofynnwyd i chi nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan y byrddau rheoli'r sgiliau a'r adnoddau i ymdrin â'r materion hyn.

 

 

Yn eich ymateb, gwnaethoch nodi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran rheoli prydlesi, a nodwyd hefyd y byddech chi'n datblygu a mireinio'r opsiynau priodol yn dilyn yr adroddiad Hackitt, a'r ymateb i'r argymhellion sy'n ymwneud â deiliaid dyletswyddau. Fodd bynnag, ni ddarparwyd gennych ddim manylion ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y cyfamser i helpu cwmnïau a sefydlwyd i reoli blociau preswyl mewn perchnogaeth breifat i ddelio â'r


 

 

 

materion cymhleth hyn, ac yn arbennig y rhai nad ydynt bob amser yn meddu ar y profiad na'r wybodaeth i allu ymdrin yn rhwydd â'r penderfyniadau anodd hyn.

 

 

Nodwn fod y prif ffocws wedi bod ar flociau â chladin ACM, ond cafwyd pryderon o ran diogelwch mewn blociau sydd heb gladin o'r fath. Felly, fel mater o bwys, mae'n rhaid i ymateb Llywodraeth Cymru ystyried yr agwedd hon, a sicrhau bod y trigolion hyn hefyd yn cael cymorth a chyngor ynglŷn â sut i sicrhau bod eu blociau'n ddiogel.

 

 

At hynny, mae gennym bryderon sylweddol o hyd ynghylch pwy sy'n atebol am gostau gwaith adfer neu fesurau diogelwch tân interim (fel wardeiniaid tân). Rydym yn ymwybodol y gallai rhywfaint o'r gwaith adfer hwn gostio'n fawr er mwyn sicrhau bod adeiladau yn cyrraedd safon diogelwch sylfaenol, ac ni fydd pob perchennog mewn sefyllfa i sicrhau'r arian i dalu am y gwaith. Gwyddom am adroddiadau sy'n awgrymu bod pobl bellach mewn sefyllfa lle na allant gael morgeisi na gwerthu eiddo o bosibl, a hynny oherwydd yr ansicrwydd parhaus ynghylch diogelwch, maint o waith adfer sydd ei angen, a sut y bydd hyn yn cael ei ariannu.

 

 

Rydym yn nodi gyda diddordeb y cynnig gan yr RLA, i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa benthyg llog isel a fyddai'n atal oedi yn y gwaith diogelwch oherwydd anghydfodau ynghylch atebolrwydd neu anawsterau codi arian. Ym mha ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y cynnig hwn, neu opsiynau eraill i atal oedi o ran cynnal gwaith adfer?

 

Grŵp Arbenigol

 

 

Rydym yn croesawu sefydlu'r Grŵp Arbenigol i ystyried yr argymhellion a wnaed yn adolygiad Hackitt. Teimlwn ei bod hi'n bwysig inni barhau i fod yn weithredol o ran monitro sut mae'r Gymraeg yn parhau i ymateb i ddatblygiadau, a hoffem gael eich barn am sut orau y gallwn ni gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Arbenigol?


 

 

 

Yn ogystal, yng ngoleuni gwaith y Grŵp Arbenigol, a allwch chi egluro a fydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yn parhau, ac os bydd, ar beth y byddent yn canolbwyntio?

 

 

Mae'n ein taro ni fod pobl sy'n byw mewn blociau uchel iawn yn y sector preifat yn wynebu cyfnod o ansicrwydd sylweddol ac nid oes ganddynt yr un sicrwydd ag sydd gan lesddeiliaid a thenantiaid yn y sector cymdeithasol. Felly, mae'r Pwyllgor yn ystyried gwneud gwaith pellach yn ymwneud â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yn y sector preifat.

 

 

Yng ngoleuni'r ffaith bod toriad yr haf gerllaw, a phwysigrwydd y mater hwn, byddem yn croesawu ymateb y gallem ei drafod yn ein cyfarfod ar 11 Gorffennaf, sef cyfarfod ffurfiol diwethaf yn nhymor yr haf.

 

 

 

Yn gywir

 

 

 

 

 

 

 

 

John Griffiths AC

 

Cadeirydd

 

 

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

 

We welcome correspondence in Welsh or English.